Coffee Culture, Llandudno, enillwyr 2010

Unwaith eto, mae Coffee Culture yn Llandudno wedi dod i’r brig fel enillwyr Pleidlais Paned Masnach Deg 2011!

Nhw oedd yr enillwyr yn 2010 hefyd.

Bu pobl yn pleidleisio ar y wefan hon, ar-lein yn walescooperative.org, drwy neges destun ac ar gardiau post, a daethpwyd â’r pleidleisiau hyn i gyd at ei gilydd er mwyn cael y canlyniad.

Dyma’r pum caffi a busnes arlwyo Masnach Deg mwyaf poblogaidd yn 2011:

  1. Coffee Culture, Llandudno
  2. Coffee Culture, Abertawe
  3. Red Café, Y Mwmbwls
  4. The Herb Garden, Llandrindod
  5. Embassy Café, Caerdydd

Diolch o galon i bawb a bleidleisiodd dros eu hoff gaffi, a llongyfarchiadau i Coffee Culture am ddod i’r brig unwaith eto.

Beth am berswadio eich caffi neu’ch tafarn leol i gynnig diodydd Masnach Deg? Gallwch weld y manteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cynnyrch Masnach Deg ar wefan Canolfan Cydweithredol Cymru yn Sut gall Masnach Deg helpu fy musnes?

.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn darparu cymorth a chyngor i fusnesau yng Nghymru sy’n awyddus i fabwysiadu polisi Masnach Deg

.

.

.

Follow

Get every new post delivered to your Inbox.

%d bloggers like this: